LLAMFF Films

The Best of Banff Films Showing this year and the LLAMFF Competition Short List

Goreuon Banff yn cael eu dangos eleni, a Rhestr Fer Cystadleuaeth LLAMFF

Deeper 27mins/mun

If you like your sports on the fluffy white stuff, this one’s for you. Skiing and snowboarding movies usually fit into a bracket: arty or hardcore, this one slots right into the hardcore genre but not because it’s got banging tunes and quick cutaways. This takes snowboarding to a whole new level.

You would imagine that with a helicopter you could get to nearly anywhere however this is actually far from the case and if you want the steepest, hardest and gnarliest you have to be willing to climb it first. The results: breathtaking.

Watch it for yourself to get the full picture but be prepared to have a level of anxiety you wouldn’t normally get from sitting in a theatre!

 

Os ydych chi’n hoffi’ch hwyl ar y stwff gwyn, dyma ffilm i chwi.Yn arferol, ffitia ffilmiau sgïo ac eirfyrddio’n daclus i’r categorïau ‘artistig’ neu ‘eithafol’, ac mae hon yn perthyn i’r ffurf eithafol, ond nid diolch i’w drac sain uchel a’i thechnegau torri ffilm sydyn. Mae’r ffilm hon yn cymryd eirfyrddio i lefel newydd.

Dychmygwn ei bod hi’n bosibl, gyda hofrennydd, i gyrraedd bron i unrhyw fan, ond mewn gwirionedd rhaid bod yn fodlon dringo i gyrraedd y llefydd mwyaf serth, anodd a pheryglus. Y canlyniadau: syfrdanol.

Gwyliwch dros eich hunain i gael y darlun lawn, ond gallwch ddisgwyl mwy na’r lefel o bryder arferol a geir wrth eistedd mewn theatr! 

 

 

Into Darkness 15mins/mun

As the title may suggest this is a caving film. It takes you into the world of the ‘frontier’ caver with beautiful imagery and some heart racing moments where you really feel you’re in that squeeze, heart thumping and pulse racing just trying to stay calm. An insight.

Fel yr awgrymir gan deitl y ffilm, mae hon yn ffilm archwilio ogofau. I fyd yr archwiliwr blaengar gyda delweddau swynol a momentau brawychus i chwi deimlo fel petaech yn y wasgfa, curiad eich calon yn cynyddu wrth i chwi geisio cadw’ch pen. Mewnwelediad. 

 

 

Dream Result 17mins/mun

Part of the Radical Reels Tour, you will understand why when you watch it. Canoeing was never like this, surely! Follow what must be some of the worlds most extreme kayakers as they chase faster, rougher, bigger and better runs culminating in the world record waterfall run of 189ft! You’ll feel exhausted just watching this one.

Rhan o’r ‘Taith Radical Reels’, chewch ddeall pam wrth ei wylio. Doedd canŵio erioed fel hyn! Dilynwch rhai o’r caiacwyr mwyaf eithafol wrth iddynt fynd ar ôl rhediadau fwyfwy cyflym, garw a fawr, gan orffen gyda’r record byd lawr rhaeadr 189troedfedd! Byddwch wedi blino’n lân dim ond wrth wylio’r ffilm hon.

 

 

Still Motion 5mins/mun

This is a beautiful piece of work, taken from a year of study it is made up of hundreds of images of the wildlife of Alberta taken by motion-triggered cameras. From Elk to Cougar this is a year in the life of Albertan wildlife.

Dyma darn swynol o waith yn deillio o astudiaeth o gannoedd o ddelweddau o fywyd gwyllt Alberta a chymerwyd gan camerâu wedi trigro gan symudiad. O elk i lewod mynydd, dyma flwyddyn ym mywyd gwyllt Alberta.

 

 

The Swiss Machine 20mins/mun

Ueli Steck is Swiss, hence the title, he is also a world-class athlete with the record of climbing the North Face of the Eiger in under 3 hours! This film follows his journey as he works to achieve his goal, culminating in some stunning visuals as Ueli gives it his all solo on the North Face.

Fel yr awgrymir gan y teitl, mae Ueli Steck o’r Swistir, ac mae’n athletwr o safon fyd-eang sy’n dal y record am ddringo Wyneb Gogleddol yr Eiger o fewn 3 awr! Dilyna’r ffilm ei daith wrth iddo weithio i gyrraedd ei nod, gan orffen gyda gwaith ffilm syfrdanol wrth iddo roi ei oll i ddringo heb raff ar y Wyneb Gogleddol.

 

 

Eastern Rises 38mins/mun

Films that challenge your prejudices and win are films worth watching. This is a film about fishing, fishing on the Kamchatka Peninsula way out East in Russia, there are no roads to speak of, you get around in decommissioned cold war helicopters, accessing valleys infested with bears, insects and mouse eating trout. You fish rivers that have never been fished and along the way you have an experience of a lifetime. Serenely shot, this is a finely crafted, intelligent, insightful and humorous film that should be watched whether you have an interest in fishing or not.

Mae ffilmiau sydd yn herio rhagfarnau ac yn ennill yn werth gwylio. Mae’r ffilm hon yn trin pysgota ar Orynys Kamchatka yn Nwyrain pell Rwsia, ble mae’r unig fynediad yn absenoldeb ffyrdd i’w gael mewn hen hofrenyddion y rhyfel oer. Yma ceir dyffrynnoedd llawn eirth, trychfilod a brithyll sy’n bwyta llygod. Hefyd, afonau nas bysgotwyd o’r blaen a phrofiad unwaith-mewn-oes. Gyda delweddau tangnefeddus, mae’r ffilm hon yn grefftwaith synhwyrol o fewnwelediant a hiwmor dylech ei wylio pe bae gennych ddiddordeb mewn pysgota ai beidio.

 

LLAMFF Competition Shortlist;

LLAMFF Films 1 or 2 refers to Programme Timings.

 

Rhestr Fer Cystadleuaeth LLAMFF;

Cyfeiria Ffilmiau LLAMFF 1 neu 2 at y rhaglen amseru.


The Pinnacle 

Documentary, 45 Minute new edit in full HD.

Role: Director/Producer, Editor, Camera

Synopsis: A tribute to Robin Smithand Jimmy Marshall's famous week on Ben Nevis in 1960.

"In one legendary week on Ben Nevis in 1960 Jimmy Marshall and Robin Smith advanced Scottish winter climbing a full ten years. On consecutive days they climbed six first winter ascents, including the mini Alpine-route Orion Face Direct (V, 5), while also making the second ascent of Point Five Gully (V, 5) for good measure. The fact they achieved all this by cutting steps up the snow and ice appears, from the remove of the 21st century, to be almost unbelievable."

'Who's who in British Climbing' , Colin Wells

Exactly 50 years on two of the UK's top climbers, Dave MacLeod and Andy Turner, set out to repeat all the routes that Smith and Marshall climbed in that week. This climbing action is cut with some rare interviews and classic archive footage to tell the storyof this historic week for Scottish Mountaineering.

 

Dogfen, 45 munud, golygiad newydd mewn UD lawn.

Swyddogaeth: Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd, Golygydd, Camera.

Crynodeb: Teyrnged i wythnos enwog Robin Smith a Jimmy Marshall ar Ben Nevis yn 1960.

 “Mewn un wythnos chwedleol ar Ben Nevis yn 1960, daeth Robin Smith a Jimmy Marshall â dringo gaeaf Albanaidd ymlaen deng mlynedd. Ar ddyddiau dilynol dringodd y ddau chwe dringfa gaeaf gyntaf, gan gynnwys y llwybr alpaidd Orion Face Direct (V,5) gan hefyd cwblhau ail ddringfa Point Five Gully (V,5). Mae’r ffaith iddynt wneud hynny oll drwy dorri grisiau yn yr eira a rhew i’w weld, o bellter yr 21ain ganrif, yn anhygoel.

‘Pwy ’di pwy yn Dringo Prydeinig’, Colin Wells

Pumdeg mlynedd yn union ers hynny, mae dau o ddringwyr pennaf Prydain, Dave MacLeod ac Andy Turner, yn mentro allan i ail-wneud dringfeydd a wnaeth Smith a Marshall yr wythnos hynny. Mae’r dringo llawn-gyffro wedi ei gyfuno â chyfweliadau prin a darnau ffilm archif clasurol i adrodd stori’r wythnos hanesyddol hwn i fynydda Albanaidd. 


 

The Path of theCondor.

 Synopsis: The film tells the story about the discovery trip made by an ornithologist and a paraglider pilot in search of the secrets of the andean condor´s life and flight. Lorenzo Sympson has dedicated most of his life to the study of condors and their life. He is trying, at present, to unveil which are the specific routes the condors use to fly. Martin Vallmitjana has dedicated himself to observe condors in order to improve his own flying skills in the strong patagonian air currents.

The sportsman and the scientist exchange their knowledge about the condor´s life and its flying proficiency while traveling the awe-striking landscapes of Patagonia, the background for this wonderful story of learning, adventure and conservation. Patagonia. 58mins

 

 Crynodeb: Edrydd hanes daith darganfyddiad a wneir gan adaregwyr a pheilot paragleidr yn ceisio dod o hyd i gyfrinachau bywyd ac ehedfa’r condor Andea. Mae Lorenzo Sympson wedi ymroddi ei bywyd i astudio bywyd y condor ac mae’n gweithio ar ddarganfod y llwybrau union maent yn defnyddio i hedfan. Mae Martin Vallmitjana wedi ymroddi’i hun i wylio’r condoriaid er mwyn gwella ar ei sgiliau hedfan ei hun yng ngheryntau cryf awyr Patagonia.

            Mae’r chwaraewr a’r gwyddon yn cyfnewid eu dealltwriaeth o fywyd y condor a’i hyfedredd hedfan wrth deithio tirluniau syfrdanol Patagonia, cefndir i’r stori ryfeddol hwn o ddysgu, antur a chadwraeth. (58 mun) Patagonia. 

 

The Prophet

There's no hiding from the fact that the main event on the Psyche II dvd is this film! Following the UK's top big wall climber Leo Houlding as he revisits his 10 year project; 'The Prophet', an exceptionally steep, loose and difficult route on the east face of Yosemite's El Cap. Leo describes the route as 'the wildest climb I've ever been on'. This has to be seen to be believed, crazy climbing.(42 mins) 

Does dim dwywaith amdani: Y prif ddigwyddiad ar DVD Psyche II yw’r ffilm hon! Mae’n dilyn Leo Houlding, dringwr muriau mawr orau Prydain wrth iddo ailymweld â’i brosiect 10 flynedd: ‘The Prophet’, sef llwybr hynod serth, briwsionllyd ac anodd ar wyneb ddwyrain El Cap yn Yosemite. Disgrifiai Leo’r llwybr fel ‘y ddringfa fwyaf gwyllt i mi fod arni erioed’. Rhaid gwylio hwn i’w gredu. (42 mun).


 

Centipede Sun (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

A mesmerizing video poem on transforming landscapes. A series of metaphors of isolation, destruction and the limits of the inhabitable territory create an uninique view of the contempory environmental condition. Shot in the Altiplano region of Chile. (10 mins) France

Cerdd fideo sy’n cyfareddu ar drawsffurfio tirluniau. Cyfres o drosiadau am arwahaniad, difethiad a chyfyngau’r diriogaeth annrhigiadwy i greu golwg unigryw o’r cyflwr amgylcheddol cyfoes. Ffilmiwyd yn rhanbarth Altiplano yn Chile. (10 mun) Ffrainc. 


 

 Three Two One (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

A short film about a former marine soldier, now base jumper Jose Campos, and his motivation ot keep risking his life long after he has returned home from war. (5 mins) Australia

Ffilm fer am Jose Campos, gyn môr-filwr sydd bellach yn neidiwr ‘base’, a’i gymhelliant i beryglu ei bywyd tro ar ôl tro ymhell wedi ei dychweliad o’r rhyfel. (5 mun) Awstralia.


 

Islands of Fire

The film is called "islands of fire". Its approx. 32 minutes long. It was filmed and produced in 2010.

Description: Sea Kayak in warm turquoise waters alongside active volcanoes in Sicily´s Aeolian islands. Justine Curgenven joins local Italian paddlers on a tour of these spectacular islands, kayaking around a rugged coastline and crossing between islands with dolphins & turtles for company. On Stromboli they climb an active volcano & witness lava being thrown 200 metres into the air. The charming film offers an insight into the Italian way of life, with good food and humour always very important.

The director/ producer / copyright holder / entered by / prize awarded to etc.... is all me or Cackle TV

 

‘Islands of Fire’ yw enw’r ffilm. Mae’r ffilm tua 32 munud hir. Ffilmiwyd a chynhyrchwyd yn 2010.

Cyfarwyddwr/Cynhyrchwr: Justine Curgenven, Cackle TV.

Disgrifiad: Caiac môr ar ddŵr gwyrddlas cynnes ymhlith llosgfynyddoedd yr ynysoedd Aeolian yn Sisili. Ymuna Justine Curgenven gyda caiacwyr lleol Eidalaidd ar daith o’r ynysoedd hardd hyn, yn cylchdeithio arfordiroedd clogyrnaidd ac yn croesi rhwng ynysoedd gyda dolffiniaid a môr-grwbanod yn gwmni. Ar Stromboli maent yn dringo llosgfynydd gweithredol ac yn gweld lafa’n cael ei luchio 200m i’r awyr. Mae’r ffilm yn swyno ac yn cynnig mewnwelediad i’r ffordd o fyw Eidalaidd, gyda bwyd da a hiwmor yn hollbwysig.

 

2 Frogs in the west

2 Frogs in the West tells the story of Marie Deschamps, a 20 year old French-Canadian girl, who quits college to go find herself and travel in Western Canada. Her journey will bring her to Whistler, British Columbia, where she will meet other young souls who are a little lost, just like her. Somewhere out West, these people and this adventure will change her life forever.

Edrydd y ffilm hon hanes Marie Deschamps, merch ugain oed o Ganada Ffrengig sy’n gadael coleg er mwyn dod o hyd i’w hun a theithio yn orllewin Canada. Mae ei daith yn mynd â hi i Whistler, British Colombia, ble mae’n cyfarfod eneidiau ifainc eraill sydd rhywfaint ar goll, fel hithau. Rhywle yn y gorllewin, bydd y bobl yma a’r antur hwn yn newid ei bywyd am byth. 

 

Mazungu (LLAMFF Films 2) (Ffilmiau LLAMFF 2)

In 2008, I became the first person in history to Canoe the 2922 mile long Congo River, in Central Africa from the source to sea. It took me 5 months, alone, with no outside help what so ever. The eighth longest river in the world, with a flow rate second only to the Amazon, along the way were crocodile and snake infested swamps, angry hippos, uncharted territory, waterfalls and rapids too numerous to mention, malaria, hostile locals but also incredible hospitality from a proud and brave people long forgotten by the Western world. On the whole the people were incredibly friendly, and I only had to get my machete out twice, to prevent myself being robbed.

I was awarded a 'Winston Churchill Memorial Trust' fellowship and grant, along with the '2008 Mike Jones Canoeing Award', and was presented with my medal by the Duchess of Cornwall, who specifically asked for a copy of my book when it comes out.

My film of the trip is a finalist in the 'Vancouver International Film Festival'.

I've served as a Royal Marine Commando in Artic Norway, the jungles of Borneo and Iraq. Other jobs include ski guide in the French Alps, Overland Expedition leader in Africa, Asia and the Middle East, armed security officer protecting Archaeologists from Grizzly bears in Alaska, and an Outdoor Pursuits & Outward Bound instructor in Wales. 20mins.

 

Yn 2008, fi oedd y person gyntaf yn hanes i ganŵio’r Afon Congo, yn 2922 milltir hir o’r tarddiad yn y Congo Canolog i’r môr. Cymerodd pum mis, ar fy mhen fy hun, heb unrhyw gymorth allanol o gwbl. Dyma’r afon wythfed hiraf yn y byd gyda'i chyfradd llif yn ail ond i’r Amazon. Ar hyd y ffordd ceir corstiroedd llawn crocodeilod a nadroedd, afonfeirch blin, tiriogaeth ansiartredig, rhaeadrau a dyfroedd gwyllt rhy niferus i grybwyll, malaria, bobl elyniaethol a hefyd lletygarwch anhygoel gan bobl falch a dewr eisoes wedi eu hanghofio gan y byd Gorllewinol. Ar y cyfan, roedd bobl yn hynod groesawus, a fu ond i mi orfod estyn am y twca dwywaith i’m hatal rhag lladrad.

Derbyniais wobr cymrodoriaeth a grant y ‘Winston Churchill Memorial Trust’ a hefyd y ‘2008 Mike Jones Canoeing Award’, a derbyniais fy ngwobr gan Dduges Cernyw, a ofynnodd yn arbennig am gopi o’m llyfr pan ddaw allan.

Mae’r ffilm o’r taith yn finalist y Vancouver International Film Festival.

Roeddwn yn Môr-Gomander Frenhinol yn Arctig Norwy, jyngl Borneo ac Iraq. Mae profiad arall yn cynnwys gwaith fel tywyswr sgïo yn yr Alpau, arweinwr Alltaith Dros Dir yn Affrica, Asia a’r Dwyrain Calon, swyddog diogelwch arfog yn gwarchod archeolegwyr rhag eirth brith yn Alaska ac yn addysgwr Outdoor Pursuits & Outward Bound yng Nghymru. (20 mun).


 

 

 

Where the Waves Break (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

Where the Waves Break is a visually strong short documentary exploring the issues of the Marine and Costal Access Bill. Shot along the the east coast of Yorkshire we meet the people involved. 7:50 mins

Dyma ffilm ddogfennol sydd yn gryf yn weledol, ac sydd yn trin materion y Mesur Mynediad at y Môr a'r Arfordir. Ffilmiwyd ar arfordir dwyrain Sir Efrog, a chawn gyfle i gyfarfod y sawl sydd wedi chwarae rhan yn y mesur. (7:50 mun).

 

The Tryfan Downhill Dash (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

In celebration of his 60th birthday, Snowdonia fell runner Mike Blake reinstates a race down the West Face of Tryfan to see whether anyone is able to challenge his 1990 record of 8 minutes. Directed by Ben Pritchard and Ali Thomas. 5mins

Er mwyn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed, mae’r rhedwr mynydd Mike Blake yn adfer ras lawr wyneb gorllewinol Tryfan i weld tybed gall unrhyw un sialensio’i record 1990 o 8 munud. Cyfarwyddwyd gan Ben Pritchard ac Ali Thomas. (5 mun). 

 

Playgravity 2

Playgravity - the other side grants a deep insight into the fascinating world of extreme sports athletes. The spectator will be charmed by impressive images and athletic state of the art action - some of it has never been seen before. Inspired touched and fueled by the loss of a beloved friend, Olympic medalist, World champions and young prodigies open up and talk about their feelings, fears and beliefs. Our journey leads us from Switzland over Alaska to Hawaii, from Spain to Indonesia and other places. Magnificent images paired with straight and unmasked statements of extraordinarily alive people will not only stun us, but touch our soul within. 55mins Switzerland.

Gan gynnig mewnwelediad dwfn i fyd athletau chwaraeon eithafol, mae’r ffilm yn swyno’r gwyliwr gyda delweddau syfrdanol a darnau ffilm nas welid erioed o’r blaen. Wedi’i ysbrydoli gan golled ffrind annwyl, mae enillwyr medalau Olympig, pencampwyr y byd a rhyfeddodau ifanc yn llacio’u tafodau i drafod eu teimladau, ofnau a chredoau. Mae’r ffilm y ein tywys o’r Swistir dros Alaska ac i Hawaii, o Spaen i Indonesia a mannau eraill. Gyda delweddau aruthrol a datganiadau onest gan bobl sydd yn hynod fyw, mae’r ffilm yn pensyfrdanu ac yn cyffwrdd enaid. (55 mun) Swistir.


 

Between the Stones

An insight into the work of a bunch of volunteers. The Langdale/Ambleside Mountain Rescue Team covers an area which stretches from the Three Shire Stone on Wrynose Pass to the Kirkstone Pass. With over 130 callouts per year, and growing, the team is on call 24 hours a day seven days a week. 48mins

 Mewnwelediad i waith gwirfoddolwyr. Mae Tîm Achub Mynydd Langdale/Amberside yn gweithio mewn ardal sydd yn ymestyn o Graig y Tair Sir ar Fwlch Wrynose i Fwlch Kirkstone. Cânt eu galw allan dros 130 waith y flwyddyn, a’r nifer ar dwf, felly maent ar alw 24 awr y dydd. (48 mun)

GWENLLIAN - PRINCESS OF WALES

SYNOPSIS:

The year is 1282 and Wales is at war with the Norman king of England, Edward 1. By the end of the year Elinor has died giving birth to Princess Gwenllian, her father, Llywelyn ap Gruffudd the Prince of Wales is killed at Cilmeri near Builth Wells and Wales has lost its independence.

The year is 2009 and the setting is the Bulkeley Hotel, Beaumaris where the Princess Gwenllian Society, after years of perseverance, will officially rename a mountain in Snowdonia from Carnedd Uchaf to Carnedd Gwenllian, and the crew members of 'no hope in hell productions' who recorded the historic event can truly say - 'I WAS THERE.'  30mins

GWENLLÏAN – TYWYSOGES GYMRU

CRYNODEB: 1282 ac mae Cymru yn rhyfela brenin Normanaidd Lloegr, Edward I. Erbyn clo’r flwyddyn mae Elinor wedi marw yn esgor Tywysoges Gwenllïan, ei thad, Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru wedi ei ladd yng Nghilmeri a Chymru wedi colli ei annibyniaeth.

2009 yng Ngwesty’r Bulkely, Biwmares ymhle mae Cymdeithas Dywysoges Gwenllïan, wedi blynyddoedd o ddyfalbarhad, am ailenwi un o fynyddoedd Eryri, Carnedd Uchaf yn Garnedd Gwenllïan. A gall aelodau criw ‘no hope in hell productions’ fu yno’n recordio’r digwyddiad gwir ddweud ‘ROEDDWN I YNO’. (30 mun).

 

A Stop Motion Skateboard film (LLAMFF Films 2) (Ffilmiau LLAMFF 2)

A short film by young film maker John Trower. 3mins

 Ffilm fer gan wneuthurwr ffilm ifanc, John Trower. (3 mun).

Demencia Senil 9a+ (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

Directed - J.Canyi
Photography - P.Savall
Cameras - Ll.Capdevila, P.Savall & J.Canyi
Edited - J.Canyi
Produced - RedBull SPA
Thanks - Baldiri, Victor, J.Pou & D.Sanchez

"Best extreme sports film Award - Mendi Mountain Film Festival of Vitoria-Gazteiz"  

4:50mins with english subtitles. Spain

 

Cyfarwyddwyd gan  – J.Canyi

Ffotograffiaeth – P.Savall

Camerâu – Ll.Capdevila, P.Savall a J.Canyi

Golygwyd gan – J.Canyi

Cynhyrchwyd gan – RedBull SPA

Diolchiadau i – Baldiri, Victor, J.Pou a D.Sanchez

“Gwobr Ffilm Chwaraeon Eithafol Orau – Mendi Mountain Film Festival o Vitoria-Gazteiz”

 (4:50 mun) gydag is-deitlau Saesneg. Spaen.

 

Panaroma (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

The Pou brothers in 'Panaroma', a Alex Huber route in Tre cime di Lavaredo, Dolomitas. The biggest free climbed roof in the world!

Directed - J.Canyi
Photography - P.Savall
Cameras - P.Savall & J.Canyi
Edited - J.Canyi
Graphics - E.Angleau
Produced - RedBull SPA
Thanks - J.Rius, C.Canyi & D.Sanchez

Audience Award - Mendi Mountain Film Festival of Vitoria-Gazteiz

11:42mins with english subtitles. Spain

 

Y brodyr Pou yn ‘Panarama’ a dringfa Alex Huber yn Tre Cime di Lavaredo, Dolomitas. To dringo’n rhydd fwyaf y byd!

 

 Cyfarwyddwyd gan  – J.Canyi

Ffotograffiaeth – P.Savall

Camerâu – Ll.Capdevila, P.Savall a J.Canyi

Golygwyd gan – J.Canyi

Cynhyrchwyd gan – RedBull SPA

Diolchiadau i – Baldiri, Victor, J.Pou a D.Sanchez

 

Gwobr y Gynulleidfa - Mendi Mountain Film Festival o Vitoria-Gazteiz

 (11:42 mun) gydag is-deitlau Saesneg. Spaen.


 

The DINORWIC Slate Quarry

An insight into the lives of some of the old quarrymen who worked at the Dinorwic Slate Quarry and the appalling working conditions they had to endure. The film also looks at the development of the quarry until its closure in 1969.

Cipolwg ar fywyd rhai o’r chwarelwyr a weithiodd yn Chwarel Lechi Dinorwig a’r safonau gwaith ofnadwy roedd yn rhaid iddynt ddioddef. Mae’r ffilm hefyd yn trafod datblyged y chwarel hyd ei chau yn 1969. 

 

Let Nature be your Teacher (LLAMFF Films 2) (Ffilmiau LLAMFF 2)

A Film by LLAMFF favourite John Whittle. Let Nature be your Teacher is John's follow up film to last years LLAMFF Short winner Sublime. 14mins

Ffilm gan un o hoff ffilmwyr LLAMFF, John Whittle. Dyma’r ffilm ddilynol i enillwr Ffilm Fer LLAMFF y llynedd Sublime. (14 mun). 

 

Heroes (LLAMFF Films 1) (Ffilmiau LLAMFF 1)

Directed by Mia Tagg, Written by Debbie Murrish and Produced by Nicola Mitchell. 12'55''

Cyfarwyddwyd gan Mia Tagg, ysgrifennwyd gan Debbie Murrish a chynhyrchwyd gan Nicola Mitchell. (12:55 mun).

 

The Ditch

LLAMFF Patron and irrepressible adventurer Paul Prichard is filmed here by Matthew Newton on an 8 day rafting expedition on the Franklin River. Tasmania. 17mins

Mae nawdd LLAMFF ac anturiaethwr diderfyn Paul Pritchard yn cael ei ffilmio gan Matthew Newton ar alltaith 8 ddiwrnod yn rafftio ar yr Afon Franklin. (17 mun) Tasmania.

 

Give Me Shelter 

A novice mountaineer looks towards the biggest challenge he can conjure and sets off on an attempt to break the world record time for climbing the seven summits in a none stop push. This film looks at the motivations and emotional background behind the Irish man's drive and conveys the jeopardy and commitment involved in such an undertaking. A Film by John Whittle. 90mins

Mae newyddian mynydda yn edrych i’r her fwyaf gallai dychmygu ac yn dechrau ar gais i guro’r record byd am ddringo’r saith copa mewn un daith ddi-stop. Mae’r ffilm yn cymryd golwg ar y cymhelliant a’r cefndir emosiynol y tu hwnt i fynd y Gwyddel ac yn cyfleu’r enbydrwydd ac ymrwymiad sydd yn mynd gyda’r fath menter. Ffilm gan John Whittle. (90 mun). 

 

Equal to Everybody Else (LLAMFF Films 2) (Ffilmiau LLAMFF 2)

Nik Royale is a climber and wheelchair user with progressive cerebral palsy. Nik's biggest climbing challenge so far has been to train and put himself forward for the Mountain Leader Training (MLT) Climbing Wall Award. In this inspiring and honest short film just put on-line by 2rays Productions, Nik explains his motivations for wanting to try and obtain the Award as it follows his progress to the fateful 'pass or fail' assessment day in October 2009. More here. 11mins

 Mae Nik Royale yn ddringwr ac yn ddefnyddiwr gadair olwyn sydd yn dioddef o barlys yr ymennydd cynyddol. Ei sialens fwyaf hyd yn hyn yw ceisio am y Wobr Wal Ddringo Hyfforddi Arweinwyr Mynydd. Mae’r ffilm fer onest yn ysbrydoli, a gwelwn Nik yn esbonio ei gymhelliant i geisio am y wobr wrth ddilyn ei ddatblygiad hyd ddiwrnod tynghedus yr asesiad ‘llwyddo neu fethu’ yn Hydref 2009. Mae’r ffilm 2rays Productions yn newydd ar-lein. (11 mun).

 

Exploration Guyana (Short Synopsis) (Crynodeb Fer)

An exploratory journey through the remote jungle of Northern Amazonia, with British explorer Charles Montier and two Patamona Indians attempting the first descent of Guyana's Potaro River, from source to mouth. A daring expedition through Guyana's remote interior

Geographical Magazine "A truly adventurous journey!" Run Time 26 mins

 

Alltaith trwy jyngl anghysbell Gogledd Amazonia gyda’r ymchwiliwr Prydeinig Charles Montier a ddau Indiad Patamona yn ceisio canŵio am y tro gyntaf erioed lawr Afon Potaro Guyana o’r tarddiad i’r aber. Alltaith herfeiddiol trwy berfeddwlad anghysbell Guyana.

Geographical Magazine "Wir antur o daith!" (26 mun).

 

more short listed competition films to be announced soon.

Rhagor o ffilmiau i’w ddatgan yn fuan.

Hwyl

 

 

'The Best of Banff World Tour', to wet your appetite why not watch this years the Best of Banff Teaser.

 

LLAMFF - Inspiring Adventure!

Mountain Equipment

About LLAMFF 2011

Fri 18th – Sun 20th March 2011

At LLAMFF 2011 you will find the best mountain films, photography and speakers (details to follow…), giving you a breathtaking insight into the wonderful planet earth and what it has to offer the intrepid and not-so-intrepid adventurer.

The breathtaking scenery of Snowdonia awaits you so why not come and embrace the unique, eccentric and edgy nature of mountain culture in British mountain adventure’s true home .

Gwe 18fed – Sul 20fed Mawrth 2011

Yma cewch hyd i’r orau o ffilmiau mynydd, ffotograffiaeth a siaradwyr (manylion i ddilyn…), gan roi mewnwelediad rhyfeddol i’n planed ni a’r hyn mae ganddi i gynnig i anturwyr. 

Mae tirlun dramatig Eryri yn eich disgwyl, felly dewch i fwynhau natur unigryw,  ecsentrig a blaengad diwylliant mynydd yng ngwir gartref antur mynydd Prydain.

 

LLAMFF – Yn Ysbrydoli Antur!

LLAMFF - Inspiring Adventure!