Mae Gwyl Ffilmiau Mynydda Llanberis yn falch o gyflwynoProudly Presents

7fed - 9fed Mawrth 2008

Manylion Ffilmiau / Darlithoedd :

 

"Llongyfarchiadau - gwyl wych."
Mick Fowler, 2002
"Roedd hi'n raglen mor ddifyr, roedd hi'n amhosib ffitio bob dim i mewn."
Ian Shaw, 2002
“Rhaglennu tanbaid”
Andy Cave, 2004

Bydd drydedd ŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos 3 – 5 Mawrth 2006. Bydd LLAMFF 2006 yn adeiladu ar lwyddiant y ddwy ŵyl flaenorol ac ar yr enw da sydd eisoes yn gysylltiedig â’r ŵyl.

Rydan ni yn dangos mwy fyth o ffilmiau gwirioneddol wych, yn gampweithiau o’r archif, hyd at ffilmiau sy’n cael eu dangos am y tro cyntaf, a cheisiadau i’n cystadleuaeth ffilmiau mynydd rhyngwladol cyntaf erioed o enwau mawr a newydd ddyfodiadau ym myd diwylliant mynydd ac antur. Rydan ni wedi ein plesio yn arw gyda’r rhestr o siaradwyr cyffrous sy’n dod i adrodd eu straeon, a’n arwain ni i’r mannau mwyaf anghysbell, uchel a dwyfol, yn dod hefyd i’n diweddaru ac i’n herio ni - peidiwch â’u fethu!

Lansio

Bydd seremoni agoriad swyddogol yr ŵyl gyda person piwsig, piswig yn digwydd ar y nos Wener, drychwch yma yn nes ymlaen am fwy o wybodaeth

Yr orau o Ŵyl Ffilmiau Mynydd Kendal

Detholiad o Ffilmiau Arobryn o Ŵyl Ffilmiau Mynydd Kendal yn 2004 & 2005.

Yr orau o Ŵyl Ffilmiau Mynydd Kendal

ARDDANGOSFEYDD

FFILMIAU

Dirtkings
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 15 mun) CYSTADLEUAETH Casgliad o olygfeydd beicio mynydd gan un sy’n gwneud ei ffilm gyntaf. Coed Y Brenin, Dolydd Swydd Efrog, y Peak District a rhai golygfeydd trefol campus. Cyfeiliant cerddorol addas ac ystyriol.

Ice Hockeying in Ladakh
To be finalised - To be finalised - ( - )
(Canada, 10 mun, Cyf/Cynhyrchwyd: Pat a Baiba Morrow) Yn ystod gemau Cwpan Stanley 2004 yn Calgary, rhaid oedd i’r chwaraewyr gymryd ocsigen i wrthweithio effeithiau uchder eithafol. Yn y ffilm hon, mae staff Llysgenhadaeth Canada yn Delhi yn hedfan i Ladakh i chwarae mewn twrnameint hoci iâ. Maent rywsut yn llwyddo i osgoi trawiadau ar y galon yn yr awyr denau, ac yn helpu i feithrin brwdfrydedd o faint yr Himalaya dros gamp genedlaethol Canada. Yn gyfnewid am hyn, mae trigolion Ladakha yn estyn croeso Bwdistaidd cynnes iddynt.

Hazard
To be finalised - To be finalised - ( - )
Ffilm ddiogelwch ddiwydiannol glasurol gyda Joe Brown a Don Roscoe ar yr Yellow Edge. Dangosir fel rhan o sesiwn ‘Rock and Ice’ DMM.

Fools With Tools
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG. 14.3 mun Cyf/Cynhyrchydd: Dave Brown & Paul Diffley, Hot Aches Production). CYSTADLEUAETH Ffilm fywiog a sydyn sy’n croniclo ymdrechion grŵp o ddringwyr o Gaeredin i ailadrodd darn prawf Scott Muir,“Fast and Furious”. Mae hiwmor hunan-ddychanol yn symud ymlaen i emosiwn dynol pur pan fydd y dringwyr yn gwthio eu hunain i’w heithafion corfforol a meddyliol.

Fetch!
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG. 1 mun. Cyf/Cynhyrchydd: Dave Brown & Paul Diffley, Hot Aches Production.) CYSTADLEUAETH Mae daschund hyfryd o’r enw Rosco yn mwynhau ei hun yn rhew ac eira’r gaeaf yng Nghanada.

Rhedeg y creigiau
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae LLAMFF yn ddiolchgar i Jayne Lloyd o Redwyr Eryri am ddarganfod detholiad o ffilmiau o fyd rhedeg creigiau. Ymysg yr uchafbwyntiau mae montage o luniau rasio-antur o Dream Team Ron Isles, Ras yr Wyddfa 2004, a ras Cefn y Ddraig ar draws Cymru. Bwriwch olwg ar y wefan am fanylion llawn yn nes ymlaen.

Downhill Racer
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 3 mun) Solo unllaw Johnny Dawes am Downhill Racer ar Frogatt Edge.

Don’s Last Climb
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 24mun) Joe Brown a Don Whillans 14 stôn yn dychwelyd i Glwydi’r Fynwent. Mae Whillans yn hel atgofion am y tro cyntaf y dringodd, a dengys lluniau ffilm archif hwy’n chwarae pŵl ac yn marchogaeth motobeics i fyny’r Bwlch. Rydan ni’n cael gwybod hefyd sut y cafodd y llwybr ei enw.

All Mixed Up – In the Canadian Rockies
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 38 mun Cyf/Cynhyrchydd: Dave Brown & Paul Diffley, Hot Aches Production.) CYSTADLEUAETH Mae’r ffilm ysgafn hon yn dilyn dwy ddringwraig Albanaidd i’r Rockies yng Nghanada, lle deuant ar draws rhwystrau fil ym myd dringo cymysg caled – byd dynol, a byd serth.

Dinorwig: Past and Present
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 30 mun, Cyfarwyddwr Jason Jones) CYSTADLEUAETH Mae’r ffilm yn darlunio hanes Chwarel Dinorwig, yn cychwyn gyda’r dynion yn ffrwydro a naddu’r llechfaen o’r mynydd a disgrifiadau o’r perchnogion, teulu o’r enw Ashton Smith, hyd at adeiladu gorsaf bŵer Dinorwig - y Mynydd Gwefru.

Magic Mountain
To be finalised - To be finalised - ( - )
(Canada, 2005, 50 munud. Cyfarwyddwr: Baiba Auders Morrow, Cynhyrchydd: Pat Morrow) Mae Cynthia Hunt yn cefnogi menywod lleol yn Ladakh – un o’r llefydd uchaf a sychaf yn y byd lle mae pobl yn byw – yn eu hymdrechion i ffurfio menter gydweithredol. Er mwyn deisebu swyddogion y llywodraeth yn y brifddinas i gael arian i godi tai gwydr, rhaid i’r grŵp fynd ar daith beryglus am bedwar diwrnod ar hyd y ‘Chador’. Mae’r ddyfrbibell rewllyd hon ar yr Afon Zanskar rewllyd yn pasio trwy geunant dyfnach na’r Grand Canyon, gyda mynyddoedd 6,000-metr o uchder dan eira o bobtu.

Depth Charge
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, detholiad 20 mun , Mike Weekes) CYSTADLEUAETH Mentro unigol i’r dŵr dwfn yng Nghroatia. Dangosir y detholiad hwn o Depth Charge yn ystod sgwrs Mike Robertson, sydd yn arbenigo mewn Mentro Unigol Dŵr Dwfn.

Dave Barton: A Tribute
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 2005, Mark Radtke) Teyrnged i’r dringwr a’r mynyddwr Dave Barton ar drothwy ei ben-blwydd yn 60. Boldro a baldorddi o Sir Gaerhirfryn.

Cry Of the Snowlion
To be finalised - To be finalised - ( - )
(104 mun) Cronicl grymus o gyfrinachau tywyll hanes diweddar Tibet, trwy gyfrwng storïau personol a chyfweliadau iasol, a chasgliad o ddelweddau tanddaearol ac archifol nas casglwyd erioed o’r blaen i un ffilm. Hanes arwrol o ddewrder a thrugaredd.

Best Forgotten Art
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG Cyfarwyddwr Johnny Dawes. 47 mun) Golwg ar ddringo carreg grut dros y 100 mlynedd diwethaf. Trac sain gwych a lluniau archif clasurol. Gyda John Allen, Joe Brown, Johnny Woodward, Boone Speed, Chris Plant, Arthur Dolphin, Airlie Anderson, Ruth Jenkins & Leo Houlding.

The Bat
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 30 mun, Jim Curran) Un o’r ffilmiau dringo gorau erioed. Mae’r ffilm yn ail-greu llwybr Dougal Haston a Robin Smith i fyny’r ‘ Bat’ ar Ben Nevis. Y sylwebaeth o hanes Smith ‘The Bat and the Wicked’.

Ffilmiau Archif Byrion o’r Chwareli
To be finalised - To be finalised - ( - )
Cyfres o ffilmiau byrion o Chwarel Dinorwig, yn cael eu cyflwyno gan yr hanesydd lleol yr Athro Merfyn Jones. - Farewell Rock (DG, 30 mun, BBC) Hanes traddodiad chwarelyddol gogledd Cymru o safbwynt Llanberis. Mae’n cynnwys lluniau o flynyddoedd olaf Chwarel Dinorwig fel chwarel byw ddiwedd y 1960au. - Mr Hugh Richard Jones (DG,10mun) Bywyd fu ynghlwm â Chwareli Dinorwig. Gan ddechrau fel prentis ifanc, daeth Jones yn beiriannydd, ac ef yn y diwedd a reolodd ddatgomisiynu’r chwarel wrth i’r lle gael ei droi’n amgueddfa. Hanesyn personol dirdynnol, yn cael ei adrodd yn ddi-lol a disentiment. - Naddu’r Graig – Working the Rock (DG, 9 mun) Sut mae chwarel yn gweithio, gan gynnwys lluniau archif D&G o dechnegau traddodiadol, cyn dwyn yr offer technegol trwm i mewn.

Aquamarine
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, Cynhyrchiad Digitaldrugs) CYSTADLEUAETH Premiere Ffilm hamddenol sy’n mynd â chi i lannau Penrhyn Llŷn, lle mae’r hinsawdd yn eich atgoffa o Fôr y Canoldir, a’r Gabbro safonol yn ei gwneud yn baradwys i boldro.

'Alright!'
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 15mins, Tîm Emmett a Leo Houlding). CYSTADLEUAETH Lluniau o neidiadau base yn y Swistir, Sbaen, Norwy, UDA a Ffrainc. Dangosir ‘Alright!’ fel rhan o sioe sleidiau Tîm Emmett.

Dogtown and Z-boys
To be finalised - To be finalised - ( - )
(UDA, 91 mun, Cyfarwyddwr Stacey Peralta) Yn haf sych ’76, mae syrffwyr ifainc o Galiffornia yn meddiannu pyllau nofio sych LA ac yn datblygu ffordd hollol newydd o sglefrfyrddio. Mae’r ffilm ddogfen gyflym a grymus hon yn ein cyflwyno i Z-boys LA, gan ddefnyddio ffilm archif a chyfweliadau cyfoes i gyfleu hanes datblygu sglefrfyrddio yn gamp amharchus fel y gwyddom ni amdani heddiw.

Red Wall
To be finalised - To be finalised - ( - )
(3 darn o 27mun, 21mun. a 25mun.) Joe Brown ac Ian MacNaught Davies yn padlo mewn dingi i gyrraedd pentir y Wal Goch tra bo Royal Robbins a Tom Patey yn gwneud croesiad Tyroleaidd i ymuno â hwy, gyda Gwylwyr y Glannau Caergybi yn eu rhybuddio o bryd i’w gilydd. Dangoswyd yn wreiddiol mewn amser real ar Grandstand.

Universal Artist
To be finalised - To be finalised - ( - )
(4 mun) MTV yn cwrdd dringo a dawns, a mwy o fywiogrwydd di-ddwylo gan Johnny Dawes

Underground Eiger
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 1979, 59 mun. Cynhyrchiad Yorkshire TV) Hanes y ‘Dead Man’s Handshake’. Mae ogofäwr o’r Almaen yn mynd ar goll yn ystod cysylltu system danddaearol yn Nolydd Swydd Efrog. Ffilm archifol glasurol am ogofâu - a gwyliwch am y barfau!.

This is the Sea II
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG Cyf/Cynhyrchydd: Justine Curgenven.) CYSTADLEUAETH Detholiad 30 munud o This is the Sea II sy’n dangos tair o ferched yn cylchforio Tasmania mewn kayak môr trwy foroedd tymhestlog a gwyntoedd drycin.

Third Dimension
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG Cyf/Cynhyrchydd: Rob Whittal, Ozone Gliders&Kites) CYSTADLEUAETH Rob Whittal yn cyflwyno’r byd i farcuta eira, un o’r campau sydd yn tyfu’n gyflymach na dim. Dilynwch dîm y barcud eira Ozone trwy Norwy, UDA a’r Alpau wrth i brif gampwyr tîm yr Ozone sylwebu ar fywyd a byd barcuta.

Rhaeadr Ewynnol
To be finalised - To be finalised - ( - )
(Cymru, 3 mun, Cyfarwyddwr: Alun Hughes) Y tro cyntaf i neb fynd i lawr y Rhaeadr Ewynnol mewn canŵ Canada. Gwelwch hwy’n mynd a dod rhwng y dyfroedd! Sylwebaeth yn Gymraeg.

The Story of Indian Face
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 20 mun Cyf/Cynhyrchydd: Alun Hughes) CYSTADLEUAETH, PREMIERE 2006 yw 20 pen-blwydd y tro cyntaf i Johnny Dawes ddringo’r hyn a gydnabyddir fel y llwybr traddodiadol caletaf yn y DG. Hyd yma, dim ond ddwywaith y mae wedi ei hail-adrodd, gan Nick Dixon a Neil Gresham. Mae’r ffilm hon yn cynnwys cyflwyniad gan Joe Brown, traethiad llif-ymwybod gan Dawes a chyfweliadau gyda John Redhead a Nick Dixon. Cyfle hefyd i weld lluniau gwreiddiol o Johnny ar ran uchaf y West Indian Face y tro cyntaf iddo gael ei ddringo yn 1988.

Stone Monkey
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 1987 Cyfarwyddwyd gan Johnny Dawes/Alun Hughes) Ail-ryddhau clasur o 1980. Mae Stone Monkey yn cofnodi rhai o lwybrau Johnny Dawes ar ymylon grutfaen Swydd Derby, nas ail-adroddwyd ers hynny, a Rhych y Chwarelwr ysblennydd yng Nghymru. Am y tro cyntaf, rhyddheir golygiad DVD :

Sick Line 3
To be finalised - To be finalised - ( - )
(Yr Almaen, 63 mun. Cyf/Cynhyrchydd: Olaf Obsommer.) CYSTADLEUAETH Athletwyr kayak gorau’r byd yn “chwilio am y ‘Sick Line’”. Dilynwch Arnd Schäftlein, Francesco Salvato a Corran Addison ar lwybrau newydd yn yr Eidal, Ben Brown yn Seland Newydd, Mike Abbott ac Ellan Allard yn sglefrio’r creigiau yn Norwy, a Deb Pinneger a Cheesy Robertson o’r DG fel fforddolion trwy Ewrop

Kayaking for Cancer
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 28 mun, Cyf./Cynhyrchydd: Simon Osborne) CYSTADLEUAETH Premiere Cylchfordaith unigol o gwmpas Iwerddon mewn kayak môr. Mae system gamera fideo sy’n gwrthsefyll dŵr yn peri i chi fedru eistedd ar ysgwydd y kayakwr am y daith epig o 900 milltir.

Return to Balance: A Climber’s Journal
To be finalised - To be finalised - ( - )
(UDA, 2003, 35 mun.) Enillodd y Cyfarwyddwr Stirling Johnson wobr EMMY am y ffotograffiaeth yn y ffilm ysblennydd hon, sy’n dangos Ron Kauk yn dringo ac yn myfyrio ar gydbwysedd a chylchoedd natur yn nyffryn Yosemite.

Kilimanjaro
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 50 mun. Cyf./Cynhyrchydd: Richard Heap & Ben Bevan Pritchard. Cynhyrchwyd gan Slackjaw Film Ltd.) CYSTADLEUAETH Premiere Cymreig Grŵp o ddringwyr ag anableddau corfforol yn dod ynghyd i ddringo Kilimanjaro. Mae’r ffilm lawn ysbrydoliaeth hon yn dilyn y dringwyr, Paul Pritchard a Jamie Andrew yn eu plith, wrth iddynt rannu eu hoffter o fynyddoedd a’r penderfyniad i fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle ddaw i’w rhan. Cyflwynwyr gwadd enwog.

Psiscobloc
To be finalised - To be finalised - ( - )
(UDA, 8 mun. Cyfarwyddwr, Produce: Josh Lowell) Klem Loskot, Tîm Emmett a’u cyfeillion yn darganfod solos dŵr dwfn rhyfeddol ar waliau gordo calchfaen hyd at 60 tr. o uchder ym Mallorca. Gyda’r môr cynnes i lanio ynddo, mae’r dringo’n wyllt a’r disgyn yn rhyfeddol. Dangosir fel rhan o sgwrs Mike Robertson.

On the Rocks
To be finalised - To be finalised - ( - )
(UDA, 1982, 60 mun. Cyfarwyddwr: Ian Stobie, Catherine Johnson) Ffilm 16mm glasurol yn portreadu mecca dringo caled UDA yn ei ddydd. Lluniau dringo’r Equinox, Phoenix a’r Grand Illusion i enwi dim ond rhai, a chyfweliadau gyda’r cast gan gynnwys John Gill, Warren Harding, Jim Erikson, Randy Levitt, Bill Price a Jerry Moffatt. Cyflwyniad arbennig gan y seren wadd Jerry Moffatt.

The Old Man Of Hoy
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 40 mun). Ffilm Grandstand arbennig arall. Joe Brown a’i ferch 14 oed Zoë yn dringo Hen Ŵr Hoy. Llawer o dynnu coes ac adar drycin yn chwydu. Hefyd yn dangos Pete Whillans a Dave Armstrong.

Off The Rails
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 52 mun) Mae dau Awstraliad yn marchogaeth o Fosco i Beijing ar feiciau gorweddol. ‘Dyw’r ffaith nad ydynt erioed wedi marchogaeth eu beiciau o’r blaen, a bod yn rhaid iddynt rywsut groesi China, sydd dan reolaeth lem, a hynny yn anghyfreithlon, yn rhwystr yn y byd iddynt. Maent yn llwyddo i ddod i ben y daith yn dal yn gyfeillion, ond o drwch blewyn yn unig !

Nelson’s Column
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG 5 mun) Y trydydd tro y dringwyd Colofn Nelson, a hyn wedi ei ddal ar ffilm gan feirniad gŵyl LLAMFF Sean Smith. Noel Craine a Johnny Dawes yn dringo yn 1995 i wneud eu protest .

Meltdown
To be finalised - To be finalised - ( - )
(DG, 50 mun, 2004 Slackjaw Productions) Ian McNaught-Davies a Roger Payne yn teithio i Begwn yr Ynys yn Nepal ar daith dan nawdd y CU i edrych ar effeithiau cynhesu byd-eang ar rewlifoedd yr ardal. Wedi’r sgrinio, bydd sesiwn yn edrych ar effaith newid hinsawdd ledled y byd.

LLaddfa ym Malta - Massacre In Malta
To be finalised - To be finalised - ( - )
(Malta/DG 50 mun Cyf/Cynhyrchydd Alun Hughes. Cymraeg, gyda sylwebaeth Saesneg) Premiere Mae miloedd o adar mudol, rhai ohonynt yn eithriadol brid, yn cael eu lladd bob blwyddyn ar eu hynt rhwng canol a gogledd Ewrop ac Affrica. Cyfle i ddarganfod pam. Golygfeydd all beri loes.

Waterfall Kayak
To be finalised - To be finalised - ( - )
(Cymru, 1989, 12 mun, Cyfarwyddwr Alun Hughes) Y tro cyntaf i neb ddod i lawr Rhaeadr Ceunant Mawr, Llanberis. Gyda Shaun Baker, Chris Hipgrave a Paul Curtis. Y ffilm rhaeadru kayak eithafol.

Riding Giants
To be finalised - To be finalised - ( - )
(UDA, 97 mun. Cyfarwyddwr Stacey Peralta) Gwir hanes syrffio o’i ddechreuadau distadl yn Hawaii hyd at ei fodolaeth fel busnes mawr heddiw. Agwedd fwyaf apelgar y ffilm ddogfen ddadlennol hon yw sylweddoli nad yw’r dialectig ‘dynoliaeth vs natur’ fyth yn dod i derfyn; ymgeisio am y don eithaf a’r pinacl ysbrydol a wneir, heb fyth eu cyrraedd.

Darlithoedd & Sioeau sleids

Violent New Breed
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae’r John Gaskins swil fel arfer yn gadael i’w lwyddiannau dringo siarad drostynt eu hunain, ond er mwyn LLAMFF, rydym yn falch iddo wneud eithriad y tro hwn. John yw un o’r ychydig ddringwyr yn y byd i fod wedi dringo F9a+ wrth ddringo Violent New Breed. Dewch i weld sut! Bydd hefyd yn sôn am ddringo yn Vosges ac am ei anturiaethau traddodiadol – nid yr hyn y buasech yn gysylltu â John.

A Journey to Life
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae’n bleser gennym groesawu yn ôl i LLAMFF un o ffotograffwyr awyr agored amlycaf y DG. Mae ei gampwaith glyweledol mwyaf diweddar yn siŵr o gyffwrdd y galon - cofiwch ddod â’ch hances boced!

Baffin Island to Patagonia
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae Tut wedi teithio fwy nac 20 o weithiau i fynydd-diroedd pwysicaf y byd dros 45 mlynedd o ddringo, wedi llwyddo (ac wedi methu) cyrraedd rhai copaon (C’est la vie!”). Aiff Tut â ni yn ôl i’r tro cyntaf y dringwyd rhai llwybrau sydd bellach yn glasurol, o urddas pell Piler Dwyreiniol Mt Asgard ar Ynys Baffin, i ddringo safonol ar wenithfaen perffaith Aig Rafael yng Ngrŵp Fitzroy, Patagonia.

Waiting for the Weather
To be finalised - To be finalised - ( - )
Sioe am broffwydo’r tywydd, gwylio cymylau a dringo. Dringo ysgafn rhydd yn Nyffryn Torres ym Mhatagonia.

Too much baggage
To be finalised - To be finalised - ( - )
Storïau Bullock am solos, dringo a methiannau, blwyddyn yn einioes y fan, o’r Alpau i Changabang a mymryn bach o Alaska.

Two years of chaos
To be finalised - To be finalised - ( - )
Un o ddringwyr Alpaidd blaenaf y DG, gyda rhestr glodwiw o ddringfeydd anodd yn glod iddo. Mae’n chwyrlio â ni ar rhwng gorfoledd a thor-calon. I Batagonia, Alaska, yr Ynys Werdd, Everest ac Annapurna. Ac yn ôl. Whiw.

Hyperboria
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae Noel yn rhy ofnus i i fynd i fynydda y dyddiau hyn, ond mae’n edrych yn ôl trwy niwl y gorffennol at daith ym 1993 i Ynys Baffin gyda Paul Pritchard, Steve Quinlan a Jose Tosa, pryd y dringwyd wyneb gogledd-orllewinol Mt Asgard am y tro cyntaf.

Circumnavigation of Tasmania
To be finalised - To be finalised - ( - )
Y mae moroedd tymhestlog a gwyntoedd ffyrnig o gwmpas Tasmania yn her i unrhyw un. Beth, felly, ddaeth dros ben tair o ferched i gylchdeithio 850 milltir o gwmpas yr ynys mewn kayak môr?

Life and Limb
To be finalised - To be finalised - ( - )
Ym 1999, cafodd y mynyddwyr Jamie Andrew a Jamie Fisher eu dal am 5 noson ar Mont Blanc. Daeth yr achubwyr yn rhy hwyr i Fisher, a chollodd Andrew ei ddwylo a’i draed i losg eira. Ers hynny, aeth Andrew ymlaen i redeg marathon a chyrraedd copa Mt Blanc a Kilimanjaro. Adroddir yr hanes am benderfyniad yn gain a di-flewyn-ar-dafod.

Preposterous Tales
To be finalised - To be finalised - ( - )
Taith egniol o gwmpas y byd gan ddau o ddringwyr mwyaf lliwgar y DG. Dathliad dilyffethair ac ysbrydoledig o ddringo yn ei holl amrywiaeth.

Beyond the Void
To be finalised - To be finalised - ( - )
Bydd Mr Yates yn bwrw llygad yn ôl dros ugain mlynedd o ddringo a mynydda yn yr olwg athronyddol a digrif hon ar rai o’i brofiadau mwyaf nodedig, i gyfeiliant detholiad anhygoel o ddelweddau a gasglwyd yn ystod ei deithiau.

Fast Freezing on Fitz
To be finalised - To be finalised - ( - )
Gan iddo dorri ei fys yn ddiweddar yn gwneud DIY, ni fedrodd Leo fynd i Batagonia, felly mae’n medru ymddangos yn LLAMFF am y tro cyntaf. Mae athroniaeth Leo o ran dringo a bywyd yn syml: “Peidiwch â’i gymryd ormod o ddifrif – mi all bywyd fod yn rhy fyr”. Yn 2002, o ganlyniad i ddamwain ddifrifol ar Cerro Torre, ni fedrodd Leo ddringo am flwyddyn – mae’r epig hon ac ymweliad eto â Fitzroy gyda Kevin Thorr ym 1995 yn rhoi defnydd sgwrs gyffrous a difyr iawn.

Death of ân Alpinist
To be finalised - To be finalised - ( - )
(AKA Alpinism is rubbish - lets all go surfing) Andy Kirkpatrick yn mynd â ni ar daith ddoniol llawn anobaith – sef dringo alpaidd, gan esbonio pam fod dringo alpaidd yn rwtsh, gyda hiwmor, gair a chân!

Yaks, Kites and Skins
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae tywysoges eira gogledd Cymru yn mentro o’i chuddfannau arferol yn yr Alpau i fynyddoedd uwch y byd, i roi gwybod i ni am daith-sgio a barcuta eira i’r Karakoram a Himalaya Pacistan.

Around the World in 80 rides
To be finalised - To be finalised - ( - )
Crewyr cwmni ‘Bikefax’ enwog, mae Sue a Dafydd yn mynd â ni ar daith feiciau mynydd o’r Wyddfa i Everest, ar y llwybr gwrth-ddisgyrchiant yn Bolivia, Mt Fuji yn Siapan, Mt Whistler yng Nghanada a Moab Slickrock yn UDA. Ydach chi’n eistedd yn gyfforddus?

A-list achievements: Airstream, Amygdala
To be finalised - To be finalised - ( - )
Yn gynharach eleni, aeth Nic i Galiffornia i ddringo am yr eildro, a hynny mewn diwrnod, Airstream, darn prawf 5.13a gwyrthiol Peter Croft yn yr High Sierra. Bydd yn sôn am hyn ac am un o’i uchelgeisiau eraill: dringo llwybr anoddaf Ynys wair, Amygdala (E8 6c).

Appointment with Death
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae’r gŵr beiddgar (ifanc –ish) hwn yn rhoi hanes anturiaethau gwyllt yn Kyrgystan, yn gwibio o ffordd plismyn llwgr ac yn dringo waliau ithfaen. Hefyd – anturiaethau grutfaen caled iasoer gan gynnwys grut grit E9 6C.

Whales and northern lights
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae’r crancfeistres leol yn dweud y cyfan am lwybrau newydd ar y Barren ar Ynys Pamiagdluk yn fjord Torssukatak yn Ne’r Ynys Werdd. Teithiau hofrennydd, morfilod, goleuadau’r gogledd, heulwen a gwenithfaen oren perffaith…….. beth allasai fod yn well?

There’s Goad in them there hills
To be finalised - To be finalised - ( - )
Hanes cymysg am boldro ithfaen yn Ewrop ac o’i chwmpas, yng nghwmni rhai o’r dringwyr mwyaf meddw yn y bydysawd. Breg-ddawnsio Gaeleg a llethrau hudolus.

DIGWYDDIADAU

A HEFYD…..!!!

O FAN HYN I FAN RHEW!
To be finalised - To be finalised - ( - )
Bydd Caradog Jones, y Cymro cyntaf i ddringo Everest, yn cyflwyno ac yn eich diddanu gyda chasgliad unigryw o ffilmiau dringo a rhaglenni dogfen, wedi eu golygu gan Alun Hughes, yn darlunio a disgrifio ei siwrne o ddringwr clogwyni lleol (Silly Arete, Tremadoc) i Affrica, Bolyn Totem Tasmania, Lotus Flower Tower yn Nhiriogaethau GO Canada, Ynys Las, Picos de Europa, a’i deithiau diweddaraf yn Georgia’r De.

PWS AR DAITH
To be finalised - To be finalised - ( - )
Yn hen law o deithiwr ac yn un o sêr teledu Cymru, bydd Dewi Pws yn dangos sleidiau ac yn rhannu ei argraff bersonol o deithio i bedwar ban y byd, o’r diffeithwch gwyllt i fynyddoedd uchel ac yn ymweld ag ambell gymuned unigryw ar ei ffordd, hefo, a heb griw ffilmio yn treulio ar ei ôl. Disgwyliwch berspectif-arbennig-Pws.

YN SGWRSIO......
To be finalised - To be finalised - ( - )
Mae Bethan Gwanas, yr awdures nodedig o Ddolgellau, wedi cyhoeddi 15 o lyfrau ers 1997 ac wedi ennill gwobr Tir na Nog ddwywaith. Cafodd Bethan (“diawl lwcus”, yn ei geiriau ei hun) deithio hyd a lled y byd yn cyflwyno’r gyfres 'Ar y Lein' i S4C. Mae Llion Iwan hefyd yn teithio ac yn ysgrifennu’n helaeth – darllenwch ei lyfr diweddaraf “Lladdwr” i brofi’r ias. Mae Llion wedi gwneud ffilmiau arobryn gydag Eric Jones ac Ellen Macarthy.


To be finalised - To be finalised - ( - )
Peidiwch â gadael i’w gwedd foneddigaidd eich twyllo, bydd yr hogiau hyn yn peri i chi riddfan mewn rhwystredigaeth ac yn bargeinio’n dwyllodrus gyda thimau eraill wrth i chi gystadlu am deitl clodwiw “Enillydd cwis Noel & George”! Rownd i seren wadd gan frenhines y creigiau Debbie Birch.

Newidiadau Hinsawdd = Newidiadau Mynyddig
To be finalised - To be finalised - ( - )
Yn dilyn dangosiad o ffilm Richard Heap,“Meltdown”, bydd panel o arbenigwyr o wahanol feysydd cysylltiedig yn rhoi eu sylwadau am newid hinsawdd. Cadeirydd y sesiwn fydd Ed Douglas.

‘ROCK AND ICE’ – THE WELSH CONNECTION
To be finalised - To be finalised - ( - )
Yn sgwrsio â Jim Perrin ……….Don Roscoe, ‘Morty’ Smith, Ray Greenall a Dennis Gray yn hel atgofion am eu dyddiau gyda’r clwb Rock and Ice, yn datgelu hanesion ac yn dryllio delwau. Bwriwch olwg yma yn nes ymlaen am fanylion y gwahoddedigion arbennig eraill.

LLAMFF organisers reserve the right to make alterations to this programme.

 



     
Am llamff | ffilmiau/siaradwyr | rhaglen | noddwyr | lleoliad | lle i aros | tocynnau | cysylltu