| Beth yw LLAMFF 2006? Be' ‘di dy gynlluniau di ar gyfer ben wythnos y 3ydd tan y 5ed o Fawrth 2006? Dyma ddyddiadau'r drydedd Wyl Ffilmiau Mynydd Llanberis - paid â'i fethu! Mae LLAMFF 2006 yn gado rhaglen pen ei gamp o ffilmiau, ddarlithoedd, sgyrsiau, barddoniaeth, ffotograffiaeth a chelf, yn dod o Gymru a phedwar ban y byd - ceir flas ar hanfod antur a chyffro chwaraeon yn y mynyddoedd , yn ogystal â'r cyfle i ddathlu celfyddyd a diwylliant mynydd byd eang. Mae tocyn i'r wyl yn eich hawlio chi i fynediad anghyfyngedig i amrywiaeth fri o ddigwyddiadau, yn ffilmiau ar restr fer gystadleuaeth ffilmiau mynydd LLAMFF gyntaf erioed,(mi fydd rhai o rain yn cael eu dangos am y tro cyntaf yng Nghymru a'r byd yn Llamff) sgyrsiau gan enwogion byd mynydda a dringo, hwylio a chaiacio, a dewisiadau o'r orau o Wyl Ffilmiau Mynydd Kendal, yn ogystal â llawer, lawer iawn fwy. Bydd manylion llawn ein rhaglen yn cael ei gyhoeddi ar y wefan dros y misoedd i ddod. Mae Llamff yn brofiad ysbrydol! Desg Tocynnau a Gwybodaeth Mi fydd docynnau a gwybodaeth ar gael o ddesg yr wyl yng nghyntedd Canolfan Ymwelwyr y Mynydd Wefru, Llanberis. Mae Mynydd Wefru ar ymyl Llyn Padarn ar yr A4086; mae yno feysydd parcio, ac oddi yno gellir cyrraedd holl ddigwyddiadau'r wyl ar droed. Ni ellir prynu tocynnau yn y ‘stafelloedd unigol. Bydd pobl ar y ddesg o hanner dydd tan 10 y nos ar Ddydd Gwener, o 9yb tan 10yn Sadwrn a 9yb tan 5yp ar y Sul. Bydd unrhyw newidiadau munud olaf i'r rhaglen yn cael ei hysbysebu wrth ddesg tocynnau'r wyl. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd i'w weld yn ffenestr y caffi nodweddiadol yng nghanol y pentref, Pete's Eats café. Ym Mynydd Wefru hefyd bydd arddangosfa fasnachol gyda stondinau a byrddau arddangos ein noddwyr a'n partneriaid. Ym mhle mae popeth yn digwydd? Y Ganolfan (Canolfan Cymunedol Llanberis). Wrth ochr Mynydd Wefru ar yr A4086. Dyma'r neuadd fwyaf, ac yma cynhelir darlithoedd, sgyrsiau a ffilmiau. Does dim bar yma. Mynydd Wefru (3 ystafell) Rydym yn ddiolchgar iawn i Fist Hydro am eu cefnogaeth o'r wyl, gan gynnwys y defnydd yr ydym yn cael o'r adeilad mawreddog hwn. Mynydd Wefru yw ganolfan yr wyl, gyda thair ystafell ble ddangosir ffilmiau, sgyrsiau, gofod ar gyfer arddangosfeydd a'r sioe fasnachol, desg tocynnau a gwybodaeth yr wyl, a gerllaw mae'r caffi rhagorol, Connections Bistro. Gwesty Dolbadarn, Stryd Fawr. Diolchwn eto i westy Dolbadarn am eu croeso hael, sydd yn caniatáu i ni ddefnyddio'r bar ar gyfer cwis enwog Noel Craine a George Smith (ydi mae'r digwyddiad poblogaidd hwn yn ôl eleni!). Bwydlen bar. Mae mynediad i'r cwis yn rhad ac am ddim. DALIED SYLW: MAE CYFYNGIADAU NIFEROEDD YN EFFEITHIO AR BOB UN O'R STAFELLOEDD YM MHLE CYNHELIR DIGWYDDIADAU'R WYL. MAE MYNEDIAD YN AGORED I'R RHYWRAI SY'N CYRRAEDD CYN I'R NEUADD LLENWI. NI ELLIR GWNEUD AD-DALIADAU I FYNYCHWYR YR WYL SYDD YN METHU CAEL MYNEDIAD I'W DEWIS CYNTAF O FFILM NEU DDARLITH. NI DDISGWYLIR Y BYDD SEFYLLFA O'R FATH YN CODI, OND PETAI HYN YN DIGWYDD HOFFEM YMDDIHEURO O FLAEN LLAW. Meithrinfa Mae LLAMFF yn arlwyo meithrinfa er mwyn hwyluso mwynhad fynychwyr yr wyl. Mae ‘r cyfleuster wedi ei rheoli gan staff cymwys, sydd wedi pasio holiadau'r heddlu. Daw mwy o fanylion ar y we yn agosach i ddyddiadau'r wyl. Gŵyl Ymylol LLAMFF
DALIER SYLW: Nid yw costau digwyddiadau’r ŵyl ymylol wedi eu cynnwys ym mhris mynediad prif ddigwyddiadau LLAMFF.
- ARDDANGOSFA GELF.
Bydd lleoliadau LLAMFF a siopau Llanberis yn troi’n oriel i arddangosfa o ddarluniau a ffotograffau yn ystod wythnos LLAMFF. Ewch ar hyd y Stryd Fawr i ddarganfod ffotograffau, lluniau a thafluniau yn y llefydd mwyaf annhebygol. Dim tâl mynediad.
- CANOLFAN DDRINGO BEACON
Cystadleuaeth ‘Tria dy Law’ Bowldro unrhyw adeg ar ddydd Sadwrn a dydd Sul 12 tan 6pm - mynediad i’r gystadleuaeth wedi ei gynnwys yn y tâl mynediad i’r wal. Hefyd: Dosbarth Meistr Neil Gresham - addas i unrhyw rai sydd eisiau gwella eu technegau dringo. Uchafswm o 10 lle am wers teirawr - cysylltwch â Beacon am gost, mwy o wybodaeth ac archebu ar 01286 650045
- CRECHE
Mae crèche LLAMFF yn cael ei redeg gan staff y Mobile Creche Company, sydd â chymwysterau ac wedi cael gwiriadau heddlu. £2.50 yr awr y plentyn. Archebwch ymlaen llaw ar 01492 513650 neu e-bostiwch mail@happyhours.plus.com neu fentro ar y diwrnod (cyntaf i’r felin). Yn Adeilad y Fyddin Diriogaethol yn Llanberis ar draws y ffordd i’r Mynydd Gwefru.
- PARTI
Cychwyn yn Hendre Hall, Tal-y-Bont o 8pm ar nos Sadwrn. Bysus am ddim yn ôl ac ymlaen i Hendre Hall - manylion llawn a thocynnau parti o’r brif ddesg docynnau a gwybodaeth yn y Mynydd Gwefru. Aiff elw’r parti i Rwydwaith Pryderon Amgylcheddol Ynysoedd Solomon .
- RHEDEG
Os am newid o’r holl eistedd yna, gwisgwch eich sgidiau, a thrio ras hwyl LLAMFF , a drefnir gan Redwyr Eryri. Ewch at wefan LLAMFF neu wefan Rhedwyr Eryri ar www.btinternet.com/~alantudur/ am fanylion llawn.
- TAITH FEICS
Bydd Bikefax yn trefnu teithiau tywys beic mynydd i gyd-fynd â’r digwyddiad. Ewch at eu gwefan am fanylion: www.bike-fax.com
Criw o wirfoddolwyr sy'n cynnal LLAMFF. Mae trefnwyr LLAMFF yn ddyledus i siaradwyr, a gwneuthurwyr ffilmiau sydd yn cyfrannu amser a brwdfrydedd er llwyddiant yr ŵyl. Mae'r ŵyl hefyd yn freintiedig iawn i gael cefnogaeth nifer o fusnesau lleol, cyrff cyhoeddus chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol (gweler tudalen ein noddwyr). Mae hyn oll yn ein galluogi ni gynnal prisiau fforddiadwy ar y tocynnau, ac yn creu awyrgylch fwy agored a chroesawus i bawb sydd am fynychu'r ŵyl. Mae unrhyw elw a wneir gan Llamff yn mynd tuag at gynnal yr ŵyl nesaf.
RHAGLEN LLAMFF 2006
Ceidw’r trefnwyr yr hawl i wneud unrhyw newid i’r rhaglen. |